En

NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae cymorth ystafell ddosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant gyrraedd eu llawn botensial – ac os yw gweithio mewn swydd gymorth yn apelio atoch chi, bydd y cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol. Bydd disgwyl i chi ennill profiad ymarferol mewn ysgol yn y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnodau Allweddol 2-4 am o leiaf un diwrnod yr wythnos fel gweithiwr neu wirfoddolwr, ac mae’n bwysig i chi drefnu eich lleoliad cyn i chi gofrestru.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn dosbarth.

…unrhyw un sydd eisiau bod yn gynorthwyydd ystafell ddosbarth neu’n gynorthwyydd cymorth dysgu

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yn cydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion; ac fe’i cynlluniwyd yn gymorth i ysgogi cynnydd a throsglwyddo ar draws gweithlu’r plant mewn ysgolion.

Mae’n datblygu gwybodaeth a fydd yn werthfawr i weithwyr gwirfoddol a gweithwyr sy’n cael eu talu, drwy astudio ystod o unedau sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Caiff bob uned ei hasesu ar wahân drwy nifer o waliau asesu gwahanol

Ar ôl y cwrs hwn gallech symud ymlaen i Ddyfarniad neu Dystysgrif CACHE Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae CACHE yn argymell y dylai fod gennych 5 TGAU gradd c neu gymhwyster cyfatebol er mwyn ymdopi â gofynion y cymhwyster.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych chi’n gweithio mewn swydd wirfoddol, bydd angen i chi gael gwiriad DBS drwy eich lleoliad. Mae’n bosibl y codir tâl o £44 am hyn a gall gymryd amser.

Ble alla i astudio NCFE CACHE Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2?

NPCE0238AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr