VTCT Tystysgrif mewn Tylino Pen Indiaidd Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£300.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
05 Tachwedd 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
15 wythnos
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol mewn sut i ddarparu triniaeth Tylino Pen Indiaidd i ymlacio a chael gwared â straen.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai sydd â diddordeb mewn Therapïau Cyflenwol a Chyfannol
...pobl sy’n mwynhau darparu gwasanaeth rhagorol i’r cyhoedd
...y rhai sydd â diddordeb mewn bod yn hunangyflogedig neu weithio mewn amgylchedd clinig
Cynnwys y cwrs
Yn ychwanegol at ddatblygu eich sgiliau ymarferol, byddwch yn ennill gwybodaeth gadarn am iechyd a diogelwch, gofal cleient, anatomi a ffisioleg.
Mae'r pynciau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:
- Gofal ac ymgynghori â chleient
- Dilyn ymarfer iechyd a diogelwch yn y salon
- Tylino Pen Indiaidd
- Hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau
Byddwch yn datblygu eich sgiliau i ddarparu triniaethau Tylino Pen Indiaidd i safon uchel a bydd hyn yn eich galluogi i ddarparu eich gwasanaethau eich hun i gleientiaid mewn clinig neu ar sail hunangyflogedig.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs, fodd bynnag, mae sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i’r cwrs yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cymhwyster wedi'i gymeradwyo a'i gefnogi gan BABTAC ac yn cynrychioli’r gweithwyr yn y sector.
Yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd cyfleoedd ichi symud ymlaen i gyrsiau nos Therapïau Cyflenwol eraill megis:
- Aromatherapi
- Adweitheg
- Tylino Cerrig Poeth
- Tylino'r Corff
Mae’n ofynnol ichi wisgo trowsus du, crys T du ac esgiliau du addas, fodd bynnag, mae gwisg clinig ar gael pe dymunech ei phrynu. Bydd gwybodaeth ar gael ar noson gyntaf y cwrs.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CCCE0102AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 05 Tachwedd 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr