En

BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - TGCh a Busnes Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.

Yn gryno

Bwriad ein cyrsiau Astudio Galwedigaethol yw eich cyflwyno i’r maes astudio y mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

... nad ydych yn siwr beth yr ydych eisiau ei wneud

... ydych eisiau mynd ymlaen i astudio cyrsiau ar y lefel nesaf, prentisiaeth neu waith

... ydych eisiau datblygu sgiliau trosglwyddadwy, ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael cipolwg ar fywyd yn y coleg. Byddwch yn cwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu.

Mae’r unedau craidd yr un fath ar gyfer pob cwrs Astudio Galwedigaethol, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes galwedigaethol yr ydych wedi’i ddewis. Os byddwch angen newid i gwrs gwahanol, pe bai angen gallwch drosglwyddo’r unedau yr ydych wedi’u hastudio ar y cwrs hwn i’r cwrs nesaf.

Dyma’r unedau craidd:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Gall yr unedau TGCh a Busnes gynnwys:

  • Datblygu gwybodaeth ddigidol trwy ddefnyddio TG
  • Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
  • Creu taenlen i ddatrys problemau
  • Creu gwefan
  • Trefnu cyfarfod
  • Brandio cynnyrch
  • Cyflwyno syniad busnes
  • Cyfrannu at gynnal digwyddiad
  • Cofnodi incwm a gwariant
  • Cyfathrebu gyda chwsmeriaid

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol, a byddwch yn ennill:

  • Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Ni cheir unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn angenrheidiol.

Bydd angen ichi fod yn llawn cymhelliant, yn ddiwyd a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl ichi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae mynychu’r holl sesiynau, ynghyd â bod yn brydlon ar gyfer pob un, yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Gallech barhau â’ch astudiaethau hyd at Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
  • Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
  • Gallech gael swydd yn eich dewis faes

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl ichi brynu offer er mwyn sicrhau eich diogelwch wrth fynd i’r afael â’r elfennau ymarferol. Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn, ar gyfer ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - TGCh a Busnes Lefel 1?

NFBD0047AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr