En

BTEC Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol – TGCh Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.

Yn gryno

Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd cynnydd amrywiol, yn cynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau ‘lefel nesaf’, prentisiaeth neu waith.

Dyma'r cwrs i chi os...

... nad ydych yn siwr beth yr ydych eisiau ei wneud

... ydych eisiau rhoi cynnig ar amrywiaeth o feysydd galwedigaethol

... ydych eisiau cael cipolwg ar fywyd yn y coleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bwriad ein cyrsiau Astudio Galwedigaethol yw eich cyflwyno i’r maes astudio y mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu.

Mae’r unedau craidd yr un fath ar gyfer pob cwrs Astudio Galwedigaethol, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes galwedigaethol yr ydych wedi’i ddewis. Os byddwch angen newid i gwrs gwahanol, pe bai angen gallwch drosglwyddo’r unedau yr ydych wedi’u hastudio ar y cwrs hwn i’r cwrs nesaf.

Dyma’r unedau craidd:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Gall yr unedau TGCh gynnwys:

  • Creu bwrdd darlunio sy’n dangos pob cam o’r broses
  • Dylunio cyflwyniad rhyngweithiol
  • Creu animeiddiad
  • Ffilmio ffilm fer
  • Datblygu gwybodaeth ddigidol trwy ddefnyddio TG
  • Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
  • Creu taenlen i ddatrys problemau
  • Creu gwefan

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol, a byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Ni cheir unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn angenrheidiol.

Bydd angen ichi fod yn llawn cymhelliant, yn ddiwyd a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl ichi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae mynychu’r holl sesiynau, ynghyd â bod yn brydlon ar gyfer pob un, yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Gallech barhau â’ch astudiaethau hyd at Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
  • Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
  • Gallech gael swydd yn eich dewis faes

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl ichi brynu offer er mwyn sicrhau eich diogelwch wrth fynd i’r afael â’r elfennau ymarferol. Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn, ar gyfer ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol – TGCh Lefel 1?

EFBD0047AC
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr