BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol - Celf a'r Cyfryngau Creadigol Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn cynnig llu o gyfleoedd datblygu i chi, gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o'n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn greadigol
.... Ydych yn ansicr ynglyn â'r hyn yr ydych eisiau ei wneud
... Ydych eisiau roi cynnig ar nifer o feysydd gwahanol i benderfynu ble mae eich angerdd
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau astudiaethau galwedigaethol wedi eu cynllunio i'ch cyflwyno i faes astudio sy'n eich diddori chi fwyaf ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
Byddwch yn cael y cyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael blas ar fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cyflawni tasgau sy'n canolbwyntio ar arddangos yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn rydych wedi ei ddysgu.
Yr un unedau craidd sydd ar draws ein holl gyrsiau astudiaethau galwedigaethol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau o fewn eich maes galwedigaethol chi. Os ydych eisiau newid cwrs, gallwch drosglwyddo'r unedau rydych wedi eu hastudio ar y cwrs hwn i'r cwrs nesaf, pe bai angen.
Mae'r unedau craidd y byddwch yn eu dilyn yn cynnwys:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall unedau Celf a'r Cyfryngau Creadigol gynnwys:
- Creu Delwedd
- Dylunio Cynnyrch
- Creu Nawsfwrdd
- Creu Printiau
- Creu Bwrdd Stori
- Dylunio Cyflwyniad Rhyngweithiol
- Creu Animeiddiad
- Saethu Ffilm Fer
- Brandio Cynnyrch
- Creu Gwefan
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych chi Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, gweithio'n galed ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd o fewn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl i chi ymarfer eich sgiliau a thechnegau mewn amgylchedd gwaith realistig o fewn y coleg, sy'n eich galluogi i feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch barhau gyda'ch astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o'ch dewis chi, mynd ymlaen i brentisiaeth neu gael swydd yn eich maes dewisol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi brynu rhai deunyddiau i gefnogi eich dysgu, megis llyfr braslunio. Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBD0047AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr