En

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys TGAU cysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Yn gryno

Mae BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio yn gymhwyster galwedigaethol cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau ymarferol, y wybodaeth, a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa yn y maes creadigol deinamig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych allu mewn maes creadigol
... Oes gennych ddawn greadigol wych
... Ydych eisiau gyrfa mewn y diwydiant creadigol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae cwrs BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio wedi'i strwythuro i gynnig cydbwysedd rhwng dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol. Mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad ag ystod amrywiol o ddisgyblaethau artistig, gan gynnwys lluniadu arsylwadol, cerameg, tecstilau, gwydr, cerflunwaith, cyfryngau cymysg, animeiddio, gwneud printiau, darlunio digidol. Fodd bynnag, rydym yn annog ein dysgwyr i ddefnyddio deunyddiau, technegau a phrosesau yn rhydd er mwyn gwneud eu darganfyddiadau eu hunain.

Trwy gydol y rhaglen, mae myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys creadigrwydd, meddwl beirniadol, datrys problemau, rheoli amser, a chyfathrebu effeithiol. Mae’r sgiliau hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn amrywiaeth o broffesiynau ac yn cyfrannu at yr addysg gyflawn y mae cwrs BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio yn ei gynnig.

Yn gyffredinol, mae’r cwrs BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio yn darparu llwybr ymarferol a deniadol i unigolion sy’n dymuno adeiladu gyrfa ym maes celf a dylunio deinamig sy’n esblygu’n barhaus.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU, Gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn un ai pwnc TGAU sy'n gysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.

Bydd disgwyl hefyd i chi reoli eich amser a bodloni terfynau amser yn effeithlon. Bydd gofyn i chi gyfrannu at drafodaethau dosbarth ac asesiadau o gyfoedion, cymryd rhan mewn prosiectau grwp a go iawn a rhoi cyflwyniadau ffurfiol ac anffurfiol fel rhan o'ch proses asesu.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau Diploma Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae gan fyfyrwyr opsiynau amrywiol ar gyfer astudiaeth bellach neu gyflogaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis dilyn addysg uwch mewn disgyblaethau celf a dylunio, fel y Celfyddydau Cain, Dylunio Graffig, Darlunio, Pensaernïaeth, Dylunydd Gêm Fideo, Dylunio Ffasiwn, Dylunio Mewnol, i enwi dim ond rhai. Gall eraill ymuno â’r gweithlu yn uniongyrchol, gan ddefnyddio eu sgiliau mewn meysydd fel dylunio llawrydd, cymorth oriel, neu ddiwydiannau creadigol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu cyfweliad adolygu portffolio lle byddwch yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Yn ystod y cyfweliad byddwch yn cyflwyno eich portffolio a llyfrau braslunio i'r tîm cwrs. Dylai eich gwaith arddangos eich gallu i fynegi a datblygu eich syniadau.

Gall ffioedd ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau fod yn daladwy drwy gydol y flwyddyn ac mae ffioedd stiwdio hefyd yn daladwy.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Ymarfer Celf a Dylunio Lefel 3?

EFBE0001AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr