BTEC Peirianneg Sifil (Diploma Estynedig) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
3
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Dydd Llun a Dydd Mercher a Dydd Gwener
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
Fydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg gradd B a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych yn gobeithio dilyn gyrfa yn nisgyblaethau technegol y diwydiant adeiladu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod wedi ei gyfyngu i, bensaernïaeth, cynllunio, dylunio adeiladau, rheoli prosiect, gwasanaeth mesur meintiau, gwneud arolwg o adeiladau a thechnegwyr CAD.
Dyma'r cwrs i chi os...
...oes gennych ddiddordeb brwd mewn peirianneg sifil
...hoffech gael gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol
...hoffech gael gwybodaeth dechnegol a deinamig o adeiladu
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae yna brentisiaethau Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ar gael, a bydd hyn hefyd yn ffurfio dilyniant naturiol i’r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni NVQ seiliedig ar grefft.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn llwybr proffesiynol mewn adeiladu, mae hwn yn gwrs dilyniant da i chi. Fe allai’r cwrs gynnwys cynllunio, cynaliadwyedd, dylunio neu weithio fel rhan o dîm ar safle adeiladu. Byddwch yn astudio unedau craidd ac unedau dewisol, gan gynnwys:
- Dylunio
- Adeiladu
- Tirfesur
- Amcangyfrif
- Cynllunio a gweinyddu
Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau rhyng-broffesiwn cyfredol a gweithgareddau ymarferol ar y safle, gan gynnwys tirfesur topograffaidd ac unionlin, cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) a thechnegau lluniadu graffegol.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol ac, ar ôl ei gwblhau, bydd gennych gymwysterau mewn:
- Lefel 3 mewn Adeiladu
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda Gradd Deilyngdod a Gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Gofynnir i chi hefyd:
- Fod â diddordeb mewn adeiladau a’r adeiladwaith trefol ehangach – nid yw adeiladu yn swydd sydd wedi’i chyfyngu i oriau gwaith y dydd ond yn hytrach yn ffordd o fyw
- Gallu gweithio o dan bwyso fel unigolyn neu fel rhan o dîm er mwyn cwblhau’r aseiniadau i derfynau amser a manylebau tynn
- Mae amgyffred gweddol o fathemateg yn ddymunol, gan fod llawer o’r modiwlau yn dibynnu ar egwyddorion mathemategol sylfaenol mewn cyd-destun adeiladu.
Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
HNC/D mewn Peirianneg Sifil
Prifysgol i astudio tuag at radd
Technolegau Peirianneg Ymgeisiad am achrediad proffesiynol
Gwybodaeth Ychwanegol
Adolygir yr holl gostau, sy’n agored i newidiadau.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NPBE0028AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr