BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys nailll ai Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Nod y cwrs hwn yw cyfuno sgiliau technegol gyda’r sgiliau busnes, rhyngbersonol a rheoli prosiect sydd eu hangen, nid yn unig yn y sector cyfrifiadura, ond ym mhob sector sy'n defnyddio technoleg mewn amgylchedd busnes cyfoes.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Mae gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cyfrifiadura

... Rydych eisiau astudio cyfrifiadura ar lefel Addysg Uwch

... Rydych yn frwdfrydig ynghylch gofynion technolegol newidiol y diwydiant

... Rydych eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol i fodloni gofynion technolegol newidiol y diwydiant. Mae'r rhaglen wedi'i wella i ddatblygu eich sgiliau technegol o safbwynt cymorth systemau, datblygu meddalwedd a rhwydweithio. Byddwch yn astudio unedau craidd yn eich blwyddyn gyntaf, ac yna'n symud ymlaen at lwybr cymorth systemau, rhwydweithio neu ddatblygu meddalwedd yn eich ail flwyddyn.

Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau, allai gynnwys:

Blwyddyn 1:

  • Egwyddorion Cyfrifiadureg (arholiad)
  • Hanfodion Systemau Cyfrifiadur (arholiad)
  • Diogelwch ac Amgryptiad Systemau TG
  • Cymwysiadau Busnes Cyfryngau Cymdeithasol
  • Datblygiad Gwefan
  • Graffeg Ddigidol ac Animeiddio.

Blwyddyn 2:

  • Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadura (asesiad allanol)
  • Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd (asesiad allanol)
  • Effaith Cyfrifiadura
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol
  • Datblygu Cronfa Ddata Berthynol
  • Dadansoddi a Dylunio Systemau

Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, a byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gymraf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc a hunangymhelliant yn nodweddion hanfodol a ddisgwyliwn gan bob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn Coleg Gwent, neu ymgymryd ag astudiaethau gwahanol ar lefel brifysgol mewn pynciau fel e-fasnach, chwarae gemau, rheoli cronfeydd data a rheoli systemau gwybodaeth.
  • Cyflogaeth fel is-ddatblygwr neu dechnegwr cyfrifiadur ayyb
  • Prentisiaeth gyda chwmni TG neu gwmni Cyfrifiadura priodol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3?

NFBE0019AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr