OCR Diploma Atodol Technegol Caergrawnt yn y Cyfryngau Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Byddwch yn datblygu'r sgiliau ymarferol, creadigol a pherfformio sydd eu hangen arnoch i gael yr hyder mewn addysg uwch neu o fewn y gweithle.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb brwd yn y cyfryngau digidol
... Rydych eisiau ymdrin ag ystod eang o ddisgyblaethau
... Ydych eisiau cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Ymunwch â'r cwrs arloesol hwn i ddatblygu a gwella eich sgiliau creadigol. Mae dysgu sut i weithio a meddwl yn feirniadol yn sgil hynod ddymunol a throsglwyddadwy.
Mae ein cyrsiau'r cyfryngau yn ymdrin â disgyblaethau megis ffilm, teledu, radio, animeiddio a dylunio gwefannau. Mae tiwtoriaid yn gyfredol ac yn berthnasol wrth iddynt barhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a'r ethos proffesiynol hwn a'r profiad galwedigaethol a gewch fydd yn gwneud y gwir wahaniaeth wrth i chi astudio o fewn maes y diwydiannau creadigol.
Mae pob ysgol o fewn y maes hwn yn angerddol, modern a blaengar. Mae ein cyfleusterau yn wych, ac mae'r amgylchedd wedi ei ddylunio i chi archwilio a datblygu eich creadigrwydd.
Cewch eich asesu drwy waith prosiect parhaus, gan gynnwys canlyniadau ysgrifenedig ac ymarferol. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ymchwil a dadansoddi, defnydd creadigol ac archwilio ystod eang o dechnolegau, yn ogystal â gwerthuso eich gwaith eich hun.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at drafodaethau dosbarth ac asesiadau o gyfoedion, cymryd rhan mewn prosiectau grwp a go iawn a rhoi cyflwyniadau ffurfiol ac anffurfiol fel rhan o'ch proses asesu. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Cynhyrchu'r Cyfryngau Creadigol Lefel 3
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Dylech allu datblygu syniadau creadigol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cynhyrchu a gallu archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y pwnc. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i Flwyddyn 2 a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn. Wedi hynny, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau ar Gampws Crosskeys
- Addysg uwch mewn ystod o ddisgyblaethau'r cyfryngau
- Cyflogaeth yn y cyfryngau megis cynhyrchu ffilm / teledu neu ôl-gynhyrchu, cynhyrchu radio, hysbysebu, a/neu marchnata/cyhoeddusrwydd.
- Cyfleoedd gyrfa posibl yn y cyfryngau mewn rolau fel animeiddiwr, golygydd comisiynu, marchnatwr digidol, cynorthwyydd golygyddol, cyfarwyddwr ffilm, golygydd ffilm/fideo, dylunydd graffeg, technegydd golau, darlledu/ffilm/fideo, rheolwr lleoliad, golygydd erthyglau cylchgrawn, newyddiadurwr cylchgrawn, cynllunydd y cyfryngau, cynllunydd cynhyrchu print, ymchwilydd rhaglen, darlledu/ffilm/fideo, cynorthwyydd darllediadau radio, cynhyrchydd radio, rhedwr, darlledu/ffilm/fideo, technegydd sain, darlledu/ffilm/fideo, ymchwilydd telegyfathrebu, gweithredwr camera teledu, cynhyrchydd teledu/ffilm/fideo, rheolwr llawr teledu, cydlynydd cynhyrchu teledu, dylunydd gwefannau
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o'r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn flasu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0015AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr