En

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 a TGAU Mathemateg gradd B.

Yn gryno

Mae’r cymhwyster un flwyddyn hwn, wedi’i ddylunio i’ch galluogi i ddatblygu’r uwch sgiliau sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i’r ail flwyddyn ar gyfer Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC (cyfwerth â thair Lefel A), sy’n galluogi astudio prifysgol, neu brentisiaeth yn Lefel 4 neu uwch, neu gyflogaeth ar lefel dechnegol neu broffesiynol o fewn y diwydiant peirianneg.

 

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych gymwysterau neu brofiad blaenorol yn y sector hwn
... Ydych eisiau datblygu gwybodaeth fanwl
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio unedau fel:

  • Uned 1: Egwyddorion peirianneg, yn cwmpasu mathemateg, egwyddorion mecanyddol a thrydanol

  • Uned 2: Cyflwyno prosesau peirianneg yn ddiogel fel tîm

  • Uned 3: Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg

  • Uned 4: Egwyddorion masnachol ac ansawdd cymhwysol mewn peirianneg

  • Uned 10: Dylunio trwy gymorth cyfrifiadur mewn peirianneg

  • Uned 25: Ymddygiad mecanyddol defnyddiau metelaidd

  • Uned 41: Gweithgynhyrchu prosesau peiriannu eilaidd

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

• BTEC Lefel 3 Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol

Gweithgareddau Sgiliau
Mathemateg a Saesneg
• Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen:

  • o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg gradd B, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C a Gwyddoniaeth gradd C

neu

  • gymhwyster perthnasol Diploma Lefel 2 ar Radd Teilyngdod a TGAU Mathemateg gradd B a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (Mecanyddol) yn yr ail flwyddyn; yna ymhellach i HNC Peirianneg yn Coleg Gwent neu astudiaeth addysg uwch arall mewn prifysgol, neu brentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3?

CFBE0014AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr