En

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwyddoniaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda chymwysterau TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae tasgau a dyddiadau cau ar y cwrs hwn wedi eu seilio ar ofynion, gweithgareddau a sefyllfaoedd realistig sy’n eich paratoi tuag at ddyfodol mewn Addysg Uwch neu'r gweithle. Rhaglen ddwy flynedd yw hon.

Ymdrinnir ag unedau cemeg, bioleg a ffiseg ac unedau eraill fydd yn cyffwrdd ar sgiliau ymarferol, yn ogystal ag iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy, gyda digon o gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych eisiau cwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith

...mae gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth

...rydych yn ysu am yrfa mewn maes gwyddonol

...rydych eisiau gweithio o fewn y GIG neu feysydd iechyd neu wyddonol perthnasol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Blwyddyn 1:

  • Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
  • Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (asesiadau mewnol).
  • Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (asesiadau allanol, arholiadau ym mis Ebrill/Mai fel arfer).
  • Uned 4: Technegau Labordy a'u Defnydd (asesiadau mewnol).

+ 2 uned ychwanegol, ddewisol a ddewisir gan diwtoriaid y cwrs (asesiadau mewnol).

Drwy gwblhau'r cymhwyster ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyflawni Diploma Sylfaen Genedlaethol L3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

 

Blwyddyn 2: 

  • Uned 5: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth II (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
  • Uned 6: Prosiect Ymchwiliol (asesiadau mewnol).
  • Uned 7: Materion Cyfoes Gwyddoniaeth (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).

+ 4 uned ychwanegol, ddewisol a ddewisir gan diwtoriaid y cwrs (asesiadau mewnol).

Byddwch yn dewis unedau yn rhai o feysydd eraill bioleg, cemeg a ffiseg i'ch cefnogi i symud ymlaen i gyrsiau gwyddoniaeth gymhwysol addysg uwch, ac i gysylltu â meysydd galwedigaethol perthnasol. Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

 

  • Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesne

Cystadlaethau sgiliau Cenedlaethol a Rhyngwladol

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc gwyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

O gwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus, mae'n bosib y gallech symud ymlaen i wneud HND neu gwrs gradd gwyddoniaeth neu wyddorau biofeddygol.

Cyfleoedd gyrfa yn gweithio mewn labordai gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir yr holl PPE gan y coleg.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3?

NFBE0003AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr