En

AIM Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol a Dylunio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu radd D neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer adeiladu gyrfa mewn ystod o ddiwydiannau creadigol a dylunio.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol
... Rydych eisiau gweithio mewn diwydiant dylunio creadigol
... Rydych eisiau ymdrin ag ystod eang o feysydd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn ymdrin ag ystod o unedau ar draws disgyblaethau creadigol gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Celf a Dylunio
  • Crefft
  • Cerddoriaeth, Perfformio a Digwyddiadau
  • Y Cyfryngau a Ffotograffiaeth
  • Cyflogadwyedd

Byddwch yn datblygu technegau ac yn adeiladu ar sgiliau sy'n hanfodol i'r diwydiant hwn drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau megis cystadlaethau, cyflwyniadau, gweithdai ac arddangosiadau.

Yn y Diploma Lefel 2, byddwch yn astudio cyfuniad o unedau ochr yn ochr â modiwlau cyflogadwyedd i'ch paratoi ar gyfer Lefel 3 mewn llwybr galwedigaethol-berthnasol neu yrfa yn y diwydiant.

Gall unedau enghreifftiol gynnwys:-

  • Iaith Weledol
  • Gweithio gyda'r Cyfryngau Cymysg
  • Bywluniadu
  • Argraffu 3D
  • Cerameg
  • Dylunio Balwnau
  • Creu Modelau
  • Dylunio Dillad
  • Sgiliau DJ
  • Recordio gyda Desg Gymysgu
  • Sain Byw
  • Cynllunio a Hyrwyddo Digwyddiadau
  • Cerddoriaeth Ffilm
  • Cynhyrchu Ffilmiau
  • Mentergarwch mewn Crefft

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau a thasgau, defnydd ymarferol, cynhyrchu cynnyrch a phortffolio o waith. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf pedwar TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd D neu uwch.

Byddwch angen i chi fod yn frwdfrydig, gweithio'n galed, bod yn angerddol am weithio yn y diwydiant dylunio creadigol. Bydd disgwyl i chi ymarfer technegau o fewn ystafelloedd celf, siop grefftau, stiwdios cerddoriaeth ac ystafelloedd y cyfryngau'r coleg i helpu i adeiladu eich profiadau gwaith realistig. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gydag ymrwymiad a'r sgiliau priodol mae posib i chi fynd ymlaen i lwybr galwedigaethol Lefel 3 mewn cerddoriaeth, celf a dylunio, y cyfryngau neu ddylunio gemau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn flasu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AIM Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol a Dylunio Lefel 2?

EFBD0091AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr