En

BTEC Diploma Cyntaf mewn Busnes Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Gofynion mynediad:

  • lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
  • NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd D.

Yn gryno

Drwy'r cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o fewn y sector busnes, ynghyd â sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith ymarferol. Byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy allweddol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae'r cwrs hwn yn gyfwerth â phedwar cymhwyster TGAU ar Radd A-C.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am y byd busnes

... Ydych eisiau dysgu sgiliau newydd ac annog eraill

... Hoffech fynd ymlaen i gyflogaeth neu Fusnes Lefel 3.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Wrth astudio'r cwrs ysbrydoledig hwn, byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau rydych eu hangen yn y diwydiant hwn i ennill cyflogaeth gyda chyflogwyr lleol neu ddatblygu eich addysg ymhellach.

Byddwch yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau ac yn edrych ar faterion a thueddiadau presennol o fewn yr amgylchedd busnes i ennill yr wybodaeth fwyaf diweddar. Byddwch yn astudio cyllid, gwasanaeth cwsmer, marchnata a chynllunio ar gyfer busnesau bach, ynghyd â phrofiad gwaith. Ymhlith y modiwlau mae:

  • Menter yn y byd busnes
  • Cyllid ar gyfer Busnes
  • Egwyddorion Marchnata
  • Busnes Ar-lein
  • Cynllunio ar gyfer Busnesau Bach
  • Gwerthu a Gwerthu Personol
  • Darparu a Gwella Gwasanaeth Cwsmer
  • Rheoli Prosiectau

Byddwch yn cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, o weithgareddau ymarferol, asesu cyfoedion, lleoliad gwaith, aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle go iawn, a dau arholiad mewn marchnata a chyllid.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn rhannu syniadau a gwybodaeth wrth i chi weithio'n annibynnol ac o fewn prosiectau grwp.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy waith cwrs, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol, trafodaethau grwp, dadleuon, mynychu lleoliad gwaith, sgiliau cyflwyno, gweithio gydag eraill, yn ogystal ag arholiadau. Mae disgwyl i chi barhau gyda'ch astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Pa gymwysterau fyddwch yn eu hennill:

  • Diploma Lefel 2 mewn Busnes
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu dilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 berthnasol arall.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad bychan tuag at deithiau a gweithgareddau menter.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cyntaf mewn Busnes Lefel 2?

PFBD0066AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr