En

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs dwy flynedd hwn - a gydnabyddir fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth - yn arbenigol iawn a bydd yn rhoi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gwaith ym maes peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiannau peirianneg neu weithgynhyrchu.

...y rhai hynny sy'n dymuno datblygu eu gyrfa bresennol a symud ymlaen i addysg uwch, gradd a rhaglenni datblygiad proffesiynol.

Cynnwys y cwrs

Bydd angen i chi gael dealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth i ddylunio cylchedau, adeiladu a chanfod diffygion, yn ogystal ag ymrwymiad llawn i fynychu a gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.

Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy/labordy, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr gwadd o'r diwydiant. Ymhlith y pynciau y byddwch yn ymdrin â nhw mae:

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Systemau a dyfeisiau electro-niwmatig/hydrolig
  • Prosiect peirianneg
  • Egwyddorion a chymwysiadau mecanyddol
  • Nodweddion deunyddiau peirianegol a'u defnydd
  • Drafftio gyda chymorth cyfrifiadur ym maes peirianneg
  • Prosesau ffurfio cynradd peirianegol
  • Technegau gorffen ac eilaidd peirianegol
  • Egwyddorion mecanyddol pellach
  • Mathemateg bellach ar gyfer technegwyr peirianneg (opsiynol)

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau (a fydd yn cael eu graddio ar lefel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth), adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio cyn ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu (120 credyd), y gallech wedi hynny fynd ymlaen i HNC Peirianneg Fecanyddol neu Weithgynhyrchu yn Coleg Gwent neu gyrsiau eraill ar lefel prifysgol, Prentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.

Gofynion Mynediad

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys C mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall (yn ddelfrydol mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu gymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych yn dilyn Prentisiaeth ffurfiol, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cwrs ychwanegol i gwblhau'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol. Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunain, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cwmpawd, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3?

CPBD0016AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr