CBAC / City & Guilds Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Craidd (Oedolion) ac Egwyddorion a Chyd-destunau Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Byddwch yn caffael y wybodaeth ategol sydd ei hangen i weithio yn y sector gofal ac yn datblygu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddod â’ch gwybodaeth i’r lefel ofynnol ar gyfer ystod o gyrsiau.
Dyma'r cwrs i chi os...
...hoffech weithio mewn iechyd neu ofal cymdeithasol
...hoffech gael lleoliad gwaith rheolaidd
...hoffech gael cyfuniad o ddysgu theori ac ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yma yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio cyflogaeth yn y diwydiant iechyd neu ofal cymdeithasol, a hoffai ymgymryd â lleoliad gwaith rheolaidd ynghyd â chwrs galwedigaethol cynhwysfawr.
Byddwch yn astudio dwy uned orfodol a phedair uned ddewisol megis:
- Sgiliau cyfathrebu
- Deall anghenion unigolion
- Anatomi a ffisioleg
- Amrywiaeth ddiwylliannol
Byddwch yn dysgu trwy waith grwp, dysgu yn y dosbarth a phrofiad gwaith, sy’n rhan orfodol o’r rhaglen.
Cewch eich asesu trwy aseiniadau ac arholiadau a byddwch yn cyflawni:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2
- Cymwysterau priodol cefnogol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc, hunangymhelliant a brwdfrydedd am y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol. Cewch eich asesu yn barhaus a bydd disgwyl i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol priodol, gan gynnwys naill ai TGAU mewn Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyfle i symud ymlaen i egwyddorion a gwerthoedd lefel 3 neu ymarfer lefel 2 City & Guilds (oedolion).
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBD0065AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr