En

BTEC Diploma mewn Perfformio Cerddoriaeth a Thechnoleg Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
  • Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Bydd y cwrs yma yn eich cyflwyno i fyd cerddoriaeth a chynhyrchu digwyddiadau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd a’r gallu i symud ymlaen yn y sector cerddorol
... Ydych yn hyderus wrth berfformio
... Oes gennych gariad at gerddoriaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae astudio yn cynnwys perfformio, technoleg recordio, technoleg sain a deall cerddoriaeth. Mae gan y cwrs yma sylfaen ymarferol gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau mewn amrywiaeth o bynciau cerddorol. Bydd gennych hefyd fynediad i stiwdio recordio ddigidol.

Byddwch yn cwblhau gwaith prosiect trwy amrywiaeth o berfformiadau, gwaith ysgrifenedig, blogiau, vlogs a chyfryngau rhyngweithiol.

Byddwch yn astudio 6 uned:

Uned 1: Archwilio Cerddoriaeth

Uned 2: Datblygiad Proffesiynol

Uned 5: Cynhyrchu Cerddoriaeth

Uned 6: Peirianneg Sain

Uned 7: Hunan-hyrwyddo yn y Diwydiant Cerddoriaeth

Uned 8: Prosiect Cerdd Mawr

Cyflenwir y cwrs trwy gyfuniad o:

  • Gwaith grwp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtorialau

Byddwch yn trefnu, rhedeg a pherfformio fel rhan o dri digwyddiad cerddorol o bwys trwy gydol y flwyddyn. Bydd eich sgiliau fel cerddor ac fel aelod o dîm yn cael eu datblygu a’u herio. 

Bydd gennych fynediad i theatr o’r radd flaenaf a chyfleusterau sain a goleuo a ddefnyddir i berfformio nosweithiau cerddorol. Bydd gennych hefyd fynediad i’n cyfresi Mac gyda Logic X ar gyfer recordio.

Byddwch yn cael eich asesu yn rheolaidd trwy arholiadau allanol ac asesiad mewnol, theori ac ymarfer, a byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Bydd disgwyl i chi chwarae offeryn, neu ganu, er mwyn cymryd rhan mewn wythnosau perfformio.

Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo. Bydd angen i chi fod â diddordeb mewn celfyddydau perfformiadol a datblygiad cerddoriaeth fodern.  

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cerddoriaeth neu Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Technoleg Cerdd.

Byddai astudiaeth bellach yn eich galluogi i ystyried y gyrfaoedd canlynol:

Rheolwr digwyddiad, Arbenigwr PPC, Cynorthwyydd Darlledu Radio, Cynhyrchydd Radio, Rheolwr Llwyfan Theatr, Cyfansoddwr, Cyfryngau a Chyfathrebu (Diwydiannau Cerdd), Theatr Gerddorol, Ysgrifennu Caneuon, Peirianneg Sain, Technoleg Sain, Rheoli Llwyfan, Canwr Cefndir, Blogiwr, Asiant Archebu, DJ, Rheolwr Digwyddiad, Technegydd Offerynnau, Athro Cerddoriaeth, Therapydd Cerddoriaeth, Cyfarwyddwr Cerdd, Cerddorfa/Cerddor Sesiwn, Peiriannydd Recordio, Canwr, Rheolwr Taith, Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Newyddiadurwr Cerddoriaeth, Hyrwyddwr Cyngerdd, Rheolwr A&R.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae clyweliad yn ofynnol cyn dechrau’r cwrs.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Perfformio Cerddoriaeth a Thechnoleg Lefel 2?

CFBD0070AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr