En

BTEC BTEC Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn ennill profiad galwedigaethol o’r gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai trwy gyflwyniadau, ymweliadau, gweithdai, mentoriaid a phrofiad gwaith.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau dilyn gyrfa yn y gwasanaethau mewn lifrai


... os ydych eisiau cyfuniad o ddysgu gweithredol, ymarferol a dysgu ar sail ddamcaniaethol

... os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn swydd wirfoddol neu swydd gyda thâl

...os ydych chi’n breuddwydio am weithio yn y gwasanaeth tân, yr heddlu, y fyddin neu’r llynges.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs yn cynnwys astudio sgiliau gwasanaeth cyhoeddus, cynllunio gyrfa a gwella iechyd a ffitrwydd ar gyfer mynediad i’r gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Gwobr Dug Caeredin, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau ar sail y Fyddin a’r Gwasanaeth Tân.

Nid oes arholiad ysgrifenedig terfynol gan y byddwch yn cyflawni eich cymhwyster trwy asesiad parhaus. Mae hyn yn cynnwys cyflawni aseiniadau, gwaith prosiect ac astudiaethau achos lle byddwch yn casglu tystiolaeth o’ch cymhwysedd. Pan fyddwch yn cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Tystysgrif BTEC Lefel 2 mewn Paratoi ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Tystysgrif Lefel 2 Ymddiriedolaeth y Tywysog mewn Datblygiad Personol a Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.

 

 

 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu gyflogaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai neu'r diwydiant awyr agored.

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgwylir i chi brynu cit awyr agored a chwaraeon hyd at werth £95, ynghyd â £40 ar gyfer Cofrestru ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC BTEC Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2?

EFBD0076AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr