En

BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi ystod o gyfleoedd dilyniant i chi, gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o'n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Rydych yn ansicr beth rydych eisiau ei wneud
...Rydych eisiau cael sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy
...Rydych eisiau cael blas ar fywyd coleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i'r maes astudio sydd o ddiddordeb i chi a'ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.

Cewch gyfle i roi cynnig ar fwy nag un maes galwedigaethol a chael cipolwg ar fywyd y coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy a chwblhau tasgau sy'n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch chi ei wneud a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu.

Mae'r unedau craidd yr un fath ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau yn eich maes galwedigaethol yr ydych wedi ei ddewis. Os oes angen i chi newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo'r unedau a astudiwyd ar y cwrs hwn i'ch un nesaf, os oes angen.

Bydd yr unedau craidd y byddwch yn eu dilyn yn cynnwys unedau fel:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun dilyniant
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Yna, byddwch yn cwblhau unedau o Wasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon, a all gynnwys o bosib:

  • Cyfrannu i'ch Cymuned
  • Cynllunio ac arwain taith
  • Ymateb i ddigwyddiad
  • Cymryd rhan mewn profion ffitrwydd
  • Chwarae chwaraeon
  • Cynorthwyo mewn gweithgaredd chwaraeon
  • Cael pobl i symud
  • Cadw’n heini ac yn iach

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol ac, ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn:

  • BTEC Lefel 1 Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae angen i chi ymddiddori mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol.

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol.

Bydd disgwyl i chi ymarfer eich sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig o fewn y coleg, er mwyn cynyddu eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol yn y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis, gallwch symud ymlaen i ddilyn prentisiaeth neu swydd yn eich maes o ddewis.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi brynu cit i sicrhau eich diogelwch wrth ymgymryd â'r elfennau ymarferol. Mae cost hyn oddeutu £65-95.

Gallai costau ychwanegol ddigwydd yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol ynghyd â £ 40 ar gyfer cofrestru D o E.

Costau ychwanegol ar gampws Crosskeys £80 Pecyn ysgol a £45 ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Astudiaethau Galwedigaethol - Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1?

EFBD0047AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr