BTEC Dyfarniad mewn Technegau Celf ar gyfer Datblygiad Personol Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
1
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£180.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2023
Dydd Llun
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
30 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i helpu pobl i archwilio ystod eang o dechnegau creadigol, megis dylunio, paentio, gwneud printiau a chreu celf 3D.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unrhyw un a hoffai wneud cwrs creadigol, mynegiannol a diddorol i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau personol.
Cynnwys y cwrs
Trwy ystod o brosiectau creadigol, anogir chi i ystyried eich sgiliau personol a datblygu'ch mynegiant artistig. Nid oes angen gwybodaeth neu brofiad blaenorol; mae diddordeb mewn bod yn fwy creadigol a defnyddio creadigedd i archwilio themâu a syniadau yn ddigon.
Yn ogystal, mae treulio amser yn bod yn greadigol yn gysylltiedig â'n lles!
Bydd disgwyl i chi fynychu'n rheolaidd, bod yn ymroddedig i gyflawni'r cwrs cyfan a chymryd rhan yn y gwahanol brosiectau trwy gydol y cwrs. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynglyn â'r gwaith y mae eich cyd-fyfyrwyr wedi'i wneud, ac adolygu a myfyrio ar eich prosiectau eich hun. Bydd disgwyl i chi ddarparu rhai deunyddiau i gefnogi eich prosiectau.
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni Dyfarniad Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol i'r cwrs hwn.
NPBA0037AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2023
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr