En

YMCA Dyfarniad mewn Arwain Hyfforddiant Kettlebell Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£80.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
14 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Sadwrn
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
15:30

Hyd

Hyd
2 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw cynnig y sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwr i gynllunio, paratoi a rhoi hyfforddiant kettlebell, gan wneud y gweithgareddau yn ddychmygol, yn effeithiol ac yn fwy anodd yn raddol.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... y rheini sydd eisoes yn meddu ar wybodaeth a sgiliau mewn hyfforddi ffitrwydd

... y rheini sydd eisiau cyflwyno hyfforddiant ar lefel broffesiynol a chynllunio a chyflawni sesiynau kettlebell diogel ac effeithiol.

Cynnwys y cwrs

Mae dwy uned i'r cwrs hwn:

  • Cynllunio sesiynau hyfforddiant kettlebell
  • Arwain sesiynau hyfforddiant kettlebell

Mae elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Deall hanes a tharddiad hyfforddiant kettlebell
  • Deall manteision hyfforddiant kettlebell
  • Deall ystyriaethau iechyd a diogelwch ar gyfer hyfforddiant kettlebell
  • Deall sut mae ymgorffori hyfforddiant kettlebell mewn sesiynau ymwrthiant
  • Gallu cynllunio sesiynau hyfforddiant kettlebell
  • Gallu paratoi at sesiynau hyfforddiant kettlebell
  • Gallu arwain hyfforddiant kettlebell
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol

Gallu myfyrio ar hyfforddiant kettlebell

Gofynion Mynediad

  • Cymwysterau addas arwain ffitrwydd yn y gampfa ar Lefel 2 (neu uwch) (e.e. Tystysgrif Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddi yn y Gampfa).
  • Gan fod y cwrs yn gofyn ymdrech corfforol a chyfranogiad unigol, mae peth ffitrwydd corfforol yn ofynnol.
Ble alla i astudio YMCA Dyfarniad mewn Arwain Hyfforddiant Kettlebell Lefel 2?

UCAW0453AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 14 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr