En

HABC Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
12 Awst 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
09:00 - 16:00

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs, bydd angen i chi fod yn 19 oed neu hyn, a dylech gael o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a Mathemateg.

Yn gryno

Y cymhwyster achrededig delfrydol ar gyfer Cymhorthwyr Cyntaf, sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau a sgiliau o asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau anaf a salwch i sgiliau cymorth cyntaf mewn CPR a defnyddio AED, rhoi cymorth cyntaf i anafedig sy’n tagu a delio gyda gwaedu allanol a sioc hypofolemig. Yn unol â chanllaw HSE, mae’n cymhwyso cymhorthwyr cyntaf brys yn y gweithle am 3 blynedd, ac ar ôl hynny bydd angen i chi ailsefyll y cwrs. Argymhellir hefyd eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth yn flynyddol.  

Dyma'r cwrs i chi os...

 

…unrhyw un sydd eisiau bod yn gymhorthwyr cyntaf brys yn y gweithle

…hyfforddi cymhorthwyr cyntaf brys mewn sefydliadau sydd angen staff wedi’u hyfforddi i’r lefel yma fel rhan o’u hasesiad anghenion cymorth cyntaf. 

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cwrs undydd sy’n cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau canlynol:

  • Rôl a chyfrifoldebau cymhorthwr cyntaf
  • Gallu asesu digwyddiad
  • Darparu cymorth cyntaf i anafedig anymatebol
  • Beth i’w wneud os yw rhywun yn tagu
  • Cynorthwyo anafedig gyda gwaedu allanol
  • Gwybod sut i ddarparu cymorth cyntaf i anafedig sydd mewn sioc
  • Delio gyda mân anafiadau

 

Asesir y cymhwyster gan ddau ddull: arsylwi ymarferol trwy gydol y cwrs ac ymatebion byr i gwestiynau gosod mewn pecyn dysgwr sy’n cwmpasu gwybodaeth ategol cymorth cyntaf.   

 

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn derbyn Gwobr HABC Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ymhlith y cyrsiau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i gymhorthwyr cyntaf mae Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith a Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig.

Ble alla i astudio HABC Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Lefel 3?

NCAW0350AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 12 Awst 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr