En

YMCA Gwobr mewn Cyfarwyddo Ymarfer Corff Grwp - Hyfforddiant Cylchol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£70.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
22 Chwefror 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Sadwrn
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
3 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i gynllunio’n broffesiynol ac arwain sesiynau Hyfforddiant Cylchol Grwp sy’n ddiogel ac effeithiol o fewn amgylchedd ffitrwydd.

Bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddod yn arweinydd ymarfer corff grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant sydd wedi'u nodi yn safon broffesiynol graidd ymarfer grwp CIMSPA.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...dysgwyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector ffitrwydd ond sydd eisiau ennill sgiliau newydd

...y rhai sydd eisiau ychwanegu at eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol i gwrdd â safon broffesiynol Hyfforddwr Ymarfer Grwp Craidd CIMSPA.

Cynnwys y cwrs

Bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddod yn arweinydd ymarfer corff grwp mewn Hyfforddiant Cylchol. Byddant yn bodloni gofynion y diwydiant sydd wedi'u nodi yn safon broffesiynol hyfforddiant grwp craidd CIMSPA.

Ar gyfer Dyfarniad Lefel 2 YMCA mewn Arwain Ymarfer Corff Grwp: Hyfforddiant Cylchol, rhaid i ddysgwyr gyflawni 2 uned orfodol:

  • Egwyddorion cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarfer corff grwp
  • Cynllunio a chyflwyno ymarfer cylchol grwp

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o sgiliau a gwybodaeth sy'n benodol i hyfforddiant cylchol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Dulliau casglu gwybodaeth am y cyfranogwr
  • Egwyddorion gwirio cyfranogwyr cyn gwneud ymarfer corff gan gynnwys yr holiadur parodrwydd i wneud ymarfer corff (PAR-Q)
  • Sut i ddefnyddio gwybodaeth cyfranogwyr i helpu i gynllunio sesiynau hyfforddi cylchol grwp diogel ac effeithiol
  • Sut i ddefnyddio cerddoriaeth er mwyn gwella sesiynau hyfforddi cylchol grwp
  • Hanfodion triniaethau tylino chwaraeon

Sgiliau:

  • Gwirio ac asesu cyfranogwyr
  • Paratoi eich hun, yr offer a'r amgylchedd ar gyfer sesiynau hyfforddi cylchol grwp
  • Arwain sesiynau hyfforddi cylchol grwp
  • Gwerthuso eich perfformiad eich hun

Byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio o dystiolaeth ac arholiadau.

Yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen i

  • Gymhwyster Hyfforddiant Personol Lefel 3,
  • Seiclo Grwp Lefel 2
  • Ymarfer corff i gerddoriaeth Lefel 2
  • Ymarfer Corff a Gweithgaredd Corfforol ar gyfer Plant Lefel 2
  • Swydd yn y diwydiant ffitrwydd.

Gofynion Mynediad

Mae'r unedau gorfodol canlynol yn ofynnol cyn ymgymryd â’r cwrs:

  • Anatomi a ffisioleg ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd
  • Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff
  • Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth iechyd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’n rhaid i ddysgwyr fod yn 19 oed neu’n hŷn ac mae’n rhaid iddynt feddu ar brofiad o gymryd rhan mewn ymarfer corff trwy ymarfer personol oherwydd bydd cymryd rhan mewn sesiynau grŵp yn orfodol.

Ble alla i astudio YMCA Gwobr mewn Cyfarwyddo Ymarfer Corff Grwp - Hyfforddiant Cylchol Lefel 2?

UCAW0180AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 22 Chwefror 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr