En

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd

Yn gryno

Mae'r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Safon Uwch newydd yn cynnig profiad dysgu cyfannol, gyda'r cyfle i ddysgu am ddatblygiad a gofal unigolion trwy gydol eu hoes o genhedlu hyd at fod yn oedolion hyn.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych eisiau gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol

...ydych eisiau ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol

...hoffech ddilyn llwybrau Safon Uwch Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, y Gyfraith neu Ddyniaethau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Ar y cymhwyster poblogaidd hwn, byddwch yn astudio pedair uned ac yn cael eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau allanol.

Gallai’r unedau gynnwys:

  • Hyrwyddo gofal a chyfathrebu o safon
  • Hyrwyddo iechyd a lles da
  • Cefnogi iechyd, lles a gwydnwch yng Nghymru
  • Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
  • Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad plant a phobl ifanc
  • Cefnogi oedolion i gynnal eu hiechyd, eu lles a’u gwydnwch

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG/U Lefel 3 - manyleb newydd CBAC

Ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn unig y mae’r cwrs Safon Uwch hwn ar gael.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen addas ar gyfer cyflogaeth yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyd-destun mwy cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn y brifysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG Lefel 3?

EFAS0177A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr