En

CBAC Ffotograffiaeth UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, i gynnwys Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ac sy'n dymuno datblygu ei sgiliau i safon uwch.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol

... Ydych yn mwynhau tynnu lluniau ac eisiau ennill mwy o wybodaeth dechnegol

... Ydych eisiau dilyn gyrfa fel ffotograffydd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn tynnu lluniau sy'n seiliedig ar ystod o bynciau ac wrth wneud hyn byddwch yn dysgu a deall egwyddorion cyfansoddiad a swyddogaethau creadigol y camera.

Yn ogystal, bydd y cwrs yn mynd i'r afael ag arfer hanesyddol a chyfoes ffotograffiaeth a magu ymwybyddiaeth o'r genres a'r cyd-destunau lu y gallwch gymhwyso ffotograffiaeth oddi mewn iddynt. Bydd gwaith creadigol gan amlaf o natur ddigidol gan ddefnyddio Photoshop, er bydd cyfleoedd i arbrofi gyda thechnegau celf gain â rendrir â llaw.

Ffotograffiaeth Lefel UG

Yn ystod y tymor cyntaf (Medi i Ragfyr) ar Lefel UG, byddwch yn dysgu elfennau sylfaenol ffotograffiaeth ac arbrofi gyda phynciau tynnu lluniau, megis y ffurf ddynol, tirlun, haniaethau a bywyd llonydd.

Cewch eich cyflwyno i Photoshop a datblygu sgiliau mewn golygu, coethi ac arbrofi gyda'ch ffotograffau. Cewch hefyd eich cyflwyno i'r broses ddylunio taflenni, dysgu sut i ymchwilio a dewis gwaith priodol gan eraill a sut i ddadansoddi eu delweddau'n feirniadol, yn ogystal â dysgu sut i ddadansoddi a myfyrio ar eich gwaith eich hun.

O Ionawr i Fai, byddwch yn cwblhau ymholiad creadigol personol (PCE) a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddechrau, datblygu a chwblhau aseiniad, wrth barhau i ddatblygu a gloywi eich sgiliau a dealltwriaeth.

Ffotograffiaeth Lefel U

Yn ystod y tymor cyntaf ym mlwyddyn 2 (Medi i Ragfyr) anogir chi i adeiladu ar y wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o'r Lefel UG gyda'r cyfle i fynd i'r afael â phwnc ffotograffig, arddull, thema, mater neu gysyniad o'ch dewis chi (ymchwiliad personol).

Bydd gweddill y flwyddyn (Ionawr i Fai) yn cynnwys aseiniad rheoledig; sy'n gyfuniad o gwestiynau a osodir yn allanol y byddwch chi'n cynhyrchu eich ymateb cyd-destunol a chreadigol iddynt.

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, i gynnwys Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

O Lefel UG i U (Gradd D neu uwch), yna cyrsiau lefel prifysgol yn y coleg neu mewn prifysgol arall.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi fod yn berchen ar gamera SLR digidol a thalu ffi stiwdio o £10.00.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Ffotograffiaeth UG Lefel 3?

EFAS0172A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr