En

CBAC Cymraeg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd C mewn Cymraeg Ail Iaith (cwrs llawn neu fyr).

Yn gryno

Mae Cymraeg ail iaith yn gwrs Safon Uwch pleserus sydd wedi'i gynllunio i annog dysgwyr i astudio'r iaith hon gyda diddordeb, mwynhad a brwdfrydedd. Bydd astudio Cymraeg yn gwella’ch CV yn sylweddol ac yn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd yng Nghymru

... Ydych eisiau ychwanegu iaith arall at eich sgiliau

...ydych astudio’r iaith hon i ychwanegu gwerth at unrhyw un o’ch llwybrau Safon Uwch

... Ydych eisiau gallu deall a siarad Cymraeg.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Ar ddechrau'r cwrs, byddwn yn ail-ymweld â'r elfennau sylfaenol a dysgu bob amser o'r ferf o'r cychwyn cyntaf er mwyn dileu camgymeriadau a all dynnu marciau ar Lefel Safon Uwch.

Mae amrywiaeth eang yn y cwrs, o astudio ffilmiau Cymraeg, hanes a diwylliant Cymru, barddoniaeth, a straeon byrion i gyfryngau cymdeithasol a'r iaith Gymraeg ym mywyd bob dydd.

Ar Lefel UG - byddwch yn astudio tri modiwl:

  • CA1 - arholiad llafar mewn grwp o dri, yn trafod ffilm Gymraeg, 'Patagonia' a ffilmiau a rhaglenni teledu eraill.
  • CA2 - gwaith cwrs sy'n seiliedig ar Gymry ddoe a heddiw sydd wedi gwneud effaith ar fywyd Cymreig a'r iaith Gymraeg.
  • CA3 - papur ysgrifenedig sy'n cynnwys cywiro camgymeriadau gramadegol cyffredin, newid paragraff byr o un amser o'r ferf i'r llall neu o'r person cyntaf i'r trydydd person, ysgrifennu llythyr Cymraeg i ymateb i hysbyseb swydd, gwerthfawrogi un o'r pum cerdd a astudir yn ystod y flwyddyn.

Ar lefel Safon Uwch - yr ail flwyddyn - bydd eich cwrs yn cynnwys tri modiwl arall:

  • CA4 - arholiad llafar mewn grwp o dri, yn trafod drama Gymraeg fodern a astudir yn y dosbarth yn ystod y flwyddyn.
  • CA5 - papur ysgrifenedig lle bydd ymgeiswyr yn trafod yr iaith Gymraeg a'i defnydd ym mywyd bob dydd - mewn gwleidyddiaeth, addysg, y gweithle a'r cyfryngau. Bydd hwn yn barhad o'r gwaith a wnaed ar gyfer y gwaith cwrs ar Lefel UG. Darllen erthygl Saesneg a llunio crynodeb ohoni yn Gymraeg.
  • CA6 - papur ysgrifenedig arall sy'n cynnwys ymarferion gramadegol sy'n seiliedig ar ymateb i e-bost neu gywiro gwaith rhywun arall; dadansoddi cynnwys ac arddull un o'r pedair stori fer a astudiwyd yn y dosbarth; trafod thema yn y stori sydd wedi'i chynnwys mewn gwaith eraill a astudiwyd dros y ddwy flynedd.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Cymraeg Lefel UG
  • Cymraeg Safon Uwch

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a Gradd C mewn Cymraeg Ail Iaith a all gynnwys y cwrs llawn neu gwrs byr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r cwrs yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach o’r iaith Gymraeg ar lefel gradd, gan ddatblygu sgiliau sy'n addas i'r gweithle ar yr un pryd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd myfyrwyr sydd wedi ennill cymhwyster cwrs byr TGAU mewn Cymraeg yn cael eu derbyn i wneud Cymraeg UG/Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac ar Gampws Crosskeys.

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i'w ddysgwyr Safon Uwch ac UG ac mae'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ar draws Gwent yn gallu cyrchu pynciau sy'n hanesyddol wedi recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd, cynigir Sbaeneg a Ffrangeg ar Gampws Crosskeys a chynigir Cymraeg ar gampws Crosskeys a Pharth Dysgu Blaenau Gwent. Os yw eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran derbyn myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Cymraeg UG Lefel 3?

CFAS0155A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr