En

CBAC Addysg Gorfforol UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a gradd B mewn Addysg Gorfforol

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag archwilio Addysg Gorfforol ac yn eich helpu chi i wella'ch perfformiad eich hun

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych wrth eich bodd yn bod yn actif
... Ydych yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i 2 uned:

Uned 1 - Archwilio Addysg Gorfforol

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud, 24% o'r cymhwyster Lefel U (60% o'r cymhwyster Lefel UG)

  • Ffisioleg ymarfer corff, dadansoddi perfformiad a hyfforddiant
  • Seicoleg chwaraeon
  • Caffael sgiliau
  • Chwaraeon a'r gymdeithas

Uned 2 - Gwella perfformiad personol mewn Addysg Gorfforol

Asesiad heb arholiad, 16% o'r cymhwyster Lefel A (40% o'r cymhwyster Lefel UG).

  • Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr ac fel hyfforddwr neu swyddog
  • Proffil perfformiad personol

Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Addysg Gorfforol Lefel UG
  • Addysg Gorfforol Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau

Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gradd B mewn Ymarfer Corff.

Dylech fod yn cymryd rhan reolaidd mewn o leiaf un math o chwaraeon ar lefel clwb a phan fo’n bosib, dylech fod yn chwarae i goleg os yw’r chwaraeon hwnnw’n cael ei gynnig.

Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gellir defnyddio Addysg Gorfforol Lefel UG fel cymhwyster 'annibynnol', er mwyn ehangu'ch ystod o bynciau ar Lefel UG neu bynciau galwedigaethol, neu gallwch barhau i Lefel U. Gall cwblhau cymhwyster Lefel A yn llwyddiannus arwain at gyrsiau prifysgol mewn pynciau megis Gwyddor Chwaraeon, Astudiaethau Chwaraeon a Ffisiotherapi. Mae Addysg Gorfforol Lefel UG ac U yn darparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon ac addysgu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Addysg Gorfforol UG Lefel 3?

PFAS0144A1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr