CBAC Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Lefelau A
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
07 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg
Yn gryno
Mae hwn yn gipolwg technegol a phleserus ar fyd TGCh
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn mwynhau gweithio gyda chyfrifiaduron
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol
... Ydych eisiau cipolwg gwell ar gymwysiadau meddalwedd a disgiau caled
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu i ddefnyddio cymwysiadau meddalwedd a disgiau caled. Byddwch yn astudio'r canlynol:
Lefel UG
- Systemau gwybodaeth (IT1)
- Cyflwyno gwybodaeth (IT2)
Lefel U
- Defnydd ac effaith TGCh (IT3)
- Cronfeydd data perthynol (IT4)
Mae'r cyrsiau TGCh Lefel UG ac U, sydd fel arfer yn cael eu cyflwyno fel rhan o raglen astudiaeth ran neu lawn amser, yn cael eu cynnig yn ystod y dydd, dros dri diwrnod. Felly maent hefyd yn addas i'r rheiny sy'n dymuno ymgymryd ag un pwnc ac sy'n gallu mynychu ar amseroedd gwahanol yn ystod yr wythnos.
Mae'r cwrs yn gyfuniad o bapurau ysgrifenedig a gwaith cwrs. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Lefel UG
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae'r cwrs yn darparu sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i gyd-fynd ag ystod eang o bynciau. Fodd bynnag, argymhellir y rheiny sy'n dymuno mynd ymlaen i addysg uwch i astudio naill ai Cyfrifiadura neu Gyfrifiadureg i astudio Cyfrifiadura Lefel U.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFAS0128A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 07 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr