En

CBAC Astudiaethau Ffilm UG Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau ffilm i'ch galluogi chi i benderfynu ble mae eich angerdd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y pwnc
... Ydych eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych am fynd ymlaen i addysg uwch, gweithio yn y diwydiant ffilm neu os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio nodweddion:

  • Ffilmiau (yn cynnwys setiau, celfi, gwisgoedd, colur, gwaith camera, goleuo, golygu, sain, perfformio)
  • Naratif, genre a chynrychioli
  • Gwahanol lwyfannau gwylio ac ymatebion cynulleidfaoedd i ffilmiau
  • Diwydiannau ffilm Hollywood a Phrydeinig
  • Sinema'r byd
  • Astudiaeth feirniadol ar ffilmiau

Mae'r cwrs Lefel UG yn cynnwys un cynhyrchiad ymarferol, gan eich caniatáu chi i greu sgript, bwrdd stori â ffotograffau, neu ffilm fer.

Mae'r cwrs Lefel U yn dilyn patrwm tebyg, gan eich caniatáu chi i greu cynhyrchiad ymarferol arall (sgript ffilm ar gyfer ffilm ffuglen, sgript ar gyfer rhaglen ddogfen neu ffilm fer) sy'n gysylltiedig â phrosiect ymchwil.

Cewch eich asesu drwy arholiad ysgrifenedig yn y ddwy flynedd, ac unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymwysterau mewn:

  • Astudiaethau Ffilm Lefel UG
  • Astudiaethau Ffilm Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau

Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Gallwch fynd ymlaen i addysg uwch (cyrsiau Uwch Ddiploma Cenedlaethol neu BA) mewn pwnc ffilm, y cyfryngau neu gyfathrebu. Mae rhai cyrsiau gradd yn rhoi mwy o bwyslais ar gynhyrchiad creadigol a bod ynghlwm â chelf a dylunio neu'r celfyddydau perfformio, yn ogystal ag adrannau'r cyfryngau, ffilm a chyfathrebiadau. Mae cyrsiau eraill yn pwysleisio sgiliau beirniadol. Yn aml mae cyrsiau gradd yn cynnig cyfuniad o elfennau a dulliau gweithredu creadigol a beirniadol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi dalu ffi stiwdio o £15.00.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Astudiaethau Ffilm UG Lefel 3?

CFAS0120A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr