En

CBAC Astudiaethau Busnes UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd.

Yn gryno

Dyma eich cam cyntaf i'w gwneud hi ym myd busnes. Mae Astudiaethau Busnes yn bwnc difyr sy'n gofyn i chi ystyried y materion ysbrydol, moesol, moesegol, cymdeithasol, diwylliannol a chyfoes sydd ynghlwm â busnesau, cydnabod bod amcanion busnes yn cael eu hysbrydoli gan y materion hyn a bod angen ystyried nifer o randdeiliaid yn y broses gwneud penderfyniadau.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Yw'r byd busnes yn eich rhyfeddu chi

... Ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol

... Ydych eisiau rôl uwch mewn busnes neu eisiau rhedeg eich busnes eich hun

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs Lefel U yn adeiladu ar y wybodaeth, dealltwriaeth a'r sgiliau yr enillasoch ym Mlwyddyn Un, ac yn eu datblygu. Asesir drwy arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd bob blwyddyn.  Nid oes gwaith cwrs.

Mae pedwar modiwl yn y cwrs:

  • Lefel UG: Cyfleoedd Busnes (Uned 1)
  • Swyddogaethau Busnes (Uned 2)
  • Lefel U: Dadansoddiad a Strategaeth Busnes (Uned 3)
  • Busnes mewn Byd Newidiol (Uned 4)

Mae'r cyrsiau Astudiaethau Busnes Lefel UG ac U, fel arfer yn cael eu cyflwyno fel rhan o raglen astudiaeth rhan neu lawn amser, yn cael eu cynnig yn ystod y dydd, dros dri diwrnod. Felly maent hefyd yn addas i'r rheiny sy'n dymuno ymgymryd ag un pwnc ac sy'n gallu mynychu ar amseroedd gwahanol yn ystod yr wythnos.

Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Astudiaethau Busnes Lefel UG
  • Astudiaethau Busnes Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Gradd B mewn Mathemateg/Rhifedd Mathemateg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gellir astudio Astudiaethau Busnes Lefel UG neu U naill ai fel prif gymhwyster, i barhau gydag o mewn Addysg Uwch, neu gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i gyrsiau priflif eraill.

Mae nifer o fyfyrwyr o'r Gwyddorau, Mathemateg, Ieithoedd a'r Dyniaethau yn dilyn gyrfaoedd yn yr amgylchedd busnes ac yn cael budd mawr o'r wybodaeth a enillir yn y cymhwyster.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio teithiau maes a digwyddiadau busnes.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Astudiaethau Busnes UG Lefel 3?

CFAS0107A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr