En

CBAC Astudiaethau'r Cyfryngau UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio tri llwyfan cyfryngau - darlledu, argraffu ac e-gyfryngau (y rhyngrwyd a thechnoleg symudol). 

Mae’r cysyniadau allweddol sy’n strwythuro’r cwrs yn cynnwys iaith gyfryngol, cynrychiolaeth, diwydiannau cyfryngol a chynulleidfaoedd.

Dyma'r cwrs i chi os...

...hoffwch fynd ymlaen i addysg uwch

...oes gennych chi ddiddordeb mewn astudiaethau'r cyfryngau

...ydych eisiau gyrfa yn niwydiant y cyfryngau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae pwysoliad y cyrsiau Lefel UG ac U yn 60% arholiad a 40% gwaith cwrs, gan fod y ddau yma bellach yn gymwysterau ar wahân.

Mae'r cwrs Lefel A yn cynnwys dau gynhyrchiad ymarferol, sy'n eich caniatáu i greu cyfryngau electronig, deunyddiau clyweledol ac argraffedig, defnyddio Adobe Premier a Photoshop. Mae'r cwrs UG yn gofyn i chi gynhyrchu un cynnyrch cyfryngau o'r llwyfannau a restrwyd uchod.

Bydd gofyn ichi sefyll un arholiad ysgrifenedig yn nhymor yr haf ar gyfer Lefel U yn y Cyfryngau. Os dewisoch ymgymryd â chwrs UG yn y Cyfryngau, bydd gofyn i chi sefyll un arholiad yn nhymor yr haf yn ogystal â'r gwaith cwrs. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad, byddwch angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn ogystal â Mathemateg.

Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gallwch symud ymlaen i gyrsiau prifysgol mewn pwnc yn ymwneud â’r cyfryngau, megis astudiaethau ffilm a theledu, astudiaethau diwylliannol neu newyddiaduraeth, neu unrhyw gyrsiau sy’n ymwneud â chyfathrebu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ffi stiwdio o £10.00 ar gyfer y pwnc hwn.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Astudiaethau'r Cyfryngau UG Lefel 3?

CFAS0068A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr