En

OCR Daeareg Safon Uwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen lleiafswm o gymwysterau TGAU arnoch yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, Iaith Saesneg a Gwyddoniaeth ar radd B neu uwch. Mae TGAU Daearyddiaeth ar radd B neu uwch yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.

Yn gryno

Mae'r cwrs Safon Uwch Daeareg hwn yn rhoi'r holl sgiliau sylfaenol ac ymarferol sydd eu hangen ar bob dysgwr i’w harfogi â gwybodaeth sylfaenol a datblygu eu geirfa wyddonol ym maes daeareg. Gan edrych ar bynciau sy’n amrywio o fwynoleg i ffosilau a hyd yn oed echdynnu creigiau, mae'r cwrs yn archwilio dimensiynau gwyddonol traddodiadol daeareg, ond hefyd cymwysiadau mwy ymarferol a dynol daeareg.

Dyma'r cwrs i chi os...

..yw gwyddoniaeth ein planed o ddiddordeb mawr i chi

..ydych yn cael eich ysgogi gan ddysgu mewn ffordd weithredol ac ymarferol

..oes gennych uchelgais i astudio Gwyddor Daear ar lefel gradd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs Safon Uwch Daeareg yn gwrs llinol wedi’i rannu dros ddwy flynedd. Yn ystod y ddwy flynedd, byddwch yn astudio:

  • Cydran 1: Hanfodion Daeareg
  • Cydran 2: Llythrennedd Gwyddonol mewn Daeareg
  • Cydran 3: Sgiliau Ymarferol mewn Daeareg

Caiff cydrannau 1, 2 a 3 eu harholi/ Yn ogystal, mae Cydran 4 sy’n ‘Arnodiad Ymarferol mewn Daeareg’ sy’n cael ei hadrodd ar wahân a’i chwblhau fel rhan o’ch arholiadau ymarferol yn y dosbarth ac ar y maes.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen lleiafswm o gymwysterau TGAU arnoch yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, Iaith Saesneg a Gwyddoniaeth ar radd B neu uwch. Mae TGAU Daearyddiaeth ar radd B neu uwch yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.

Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn cwblhau eich cymhwyster Safon Uwch Daeareg, mae nifer o gyrsiau prifysgol ar gael mewn Gwyddor Daear, Geocemeg ac astudiaethau Daearegol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio OCR Daeareg Safon Uwch Lefel 3?

PFAL0193Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr