En

Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£1650.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:45

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:45

Hyd

Hyd
32 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn un delfrydol os ydych eisiau symud ymlaen i Addysg Uwch (AU) ac i broffesiwn gofal iechyd. Mae'n cynnig llwybr carlam (1 flwyddyn) ac yn rhoi'r cyfle ichi astudio ar gwrs gradd cysylltiedig â gofal iechyd.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... hoffech fynd i'r brifysgol, ond fe wnaethoch adael yr ysgol heb y cymwysterau sydd eu hangen arnoch.

... ydych eisiau paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol

... oes gennych ddiddordeb mawr mewn astudiaethau a gyrfaoedd cysylltiedig ag iechyd.

 

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach sy'n gysylltiedig ag iechyd. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau fel rheoli amser, gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu ac yn datblygu sgiliau astudio ymchwil i'ch helpu yn eich astudiaethau yn y dyfodol.

Gallai amrywiaeth o unedau gynnwys y canlynol;

  • Cyfathrebiadau
  • Rhifedd
  • Cymdeithaseg
  • Cemeg
  • Astudiaethau Iechyd
  • Seicoleg
  • Anatomeg a Ffisioleg

Asesir hyn drwy Asesiadau Ffurfiol Mewnol. Byddwch yn ymgymryd ag ystod o feini prawf asesu drwy aseiniadau, profion, cyflwyniadau llafar, tasgau ymarferol a thraethawd estynedig. Byddwch yn cyflawni Diploma Mynediad Agored Cymru i AU - Gofal Iechyd a fydd yn dal pwyntiau UCAS.

 

 

Gofynion Mynediad

Tgau Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch yn ddymunol. Bydd yn ofynnol i ddysgwyr heb gymwysterau ymgymryd ag asesiad Rhifedd a Llythrennedd a chyflawni Lefel 2 o leiaf.

Dylai ymgeiswyr fod dros 19 oed: sylwer, fodd bynnag, y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr o dan 21 oed ddangos profiad bywyd perthnasol. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol penodol a mynediad yw drwy system gyfweld ac asesiad byr.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hwn yn gwrs dwys sy'n gofyn am lefel uchel o ymrwymiad ac ymroddiad. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynychu pob sesiwn a chynnal astudiaeth annibynnol sylweddol.

Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant yw'r rhinweddau hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn cyflawni'r cymhwyster.

Sylwch: Mae'r cwrs hwn yn ymestyn dros ddwy flynedd academaidd.

Ble alla i astudio Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Nyrsio, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd Lefel 3?

NCAC0003AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr