En

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau HYBLYG, AM DDIM mewn amrywiaeth o ddiwydiannau

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau am ddim sy’n rhoi sgiliau a chymwysterau newydd i chi – rhai y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt – i’ch helpu chi i fanteisio ar brinder sgiliau a chael eich gyrfa i symud.

Yn well fyth, maent yn hyblyg –bydd y coleg yn gwneud ei orau glas i gwrdd ag anghenion pawb wrth gynllunio’r dyddiadau a’r amseroedd y cynhelir y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg a’u nod fydd darparu’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith unigolio.

Tata Steel - Cyfrifon Dysgu Personol

Mae Cyfrifon Dysgu Personol ar gael ar gyfer gweithwyr Tata Steel a’u cadwyn gyflenwi Gymreig yn unig, 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru. Os nad ydych chi’n gyflogedig gan Tata na’u cadwyn gyflenwi Gymreig, dewch yn ôl o Awst 2024 ymlaen.

Gan weithio â Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r sefyllfa yn Tata UK, mae cynllun ymyrraeth a dargedwyd newydd sy’n werth £2m wedi’i gymeradwyo. Bydd y cynllun hwn ar gael tan 31ain Gorffennaf 2024 gan ddarparu’r holl gymorth hyblyg angenrheidiol er mwyn ailhyfforddi a newid eich gyrfa.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin a dysgu mwy am Gyfrifon Dysgu Personol.

Gwnewch gais ar gyfer un cwrs ar y tro yn unig, oherwydd os gwnewch sawl cais, dim ond un y gellir ei brosesu.

Er y gallech fod yn gymwys i gael arian ar gyfer mwy nag un cwrs Cyfrif Dysgu Personol, dim ond un cais y pen y gallwn ei dderbyn ar y tro. Os bydd cais yn llwyddiannus ar gyfer cwrs, rhaid i chi gwblhau’r cwrs cyntaf cyn y gellir wneud rhagor o geisiadau.

Noder, byddwch angen cysylltiad â’r rhyngrwyd a gliniadur/cyfrifiadur er mwyn cwblhau un o’n cyrsiau e-ddysgu neu rithiwr. Hefyd, byddwch angen meicroffon a gwe-gamera ar gyfer rhai cyrsiau. Gwiriwch eich bod yn gallu defnyddio’r offer hanfodol cyn cyflwyno eich cais.

I hawlio ad-daliad ar gyfer costau CDP fel ffioedd arholiadau, lawrlwythwch y ffurflen hon.

 

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Anfonwch e-bost at pla@coleggwent.ac.uk.
Fel arall, gallwch ffonio 01495 333777

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau