Prentisiaethau
Oes gennych chi ddiddorbed mewn bod yn brentis?
Elani mae Coleg Gwent yn cynnig Prentisiaethau newydd cyffrous mewn adeiladu, peirianneg ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynlluniwyd y prentisiaethau i roi cymwysterau gwerthfawr, profiad gwaith hanfodol - a chyflog wrth astudio, i bobl ifanc.
Wrth eich gwaith byddwch yn gweithio fel gweithiwr cyflogedig ar y cyd ag aelodau staff profiadol. Fel arall, byddwch cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddulliau dysgu megis diwrnod yn astudio yn y coleg, asesiadau ar-lein ac asesiadau yn eich gweithle.
Mae gennym gyrsiau amrywiol ar gyfer Prentisiaid yn darparu hyfforddiant o safon mewn amgylchedd cefnogol, gan eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau yn eich gyrfa o ddewis.
Os ydych yn 16 oed neu'n hyn ac yn gyflogedig yn barod yn y meysydd yn cynigiwn brentisiaethau ynddynt, gallwch ddewis eich cwrs ac ymgeisio ar-lein.
Os nad ydych yn gyflogedig gallwn roi cyngor i chi ynglŷn â chanfod swydd â'ch helpu i bartneru â chyflogwr.
I gael gwybod rhagor am ein Prentisiaethau e-bostiwch apprenticeships@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333355.